Ynglŷn â Phrifysgol Bangor

This post is also available in: enEnglish

Ynglŷn â Phrifysgol Bangor

Enw da am ragoriaeth

Wedi’i sefydlu yn 1884, mae gan Brifysgol Bangor draddodiad hir o ragoriaeth academaidd ac mae’n mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau o ran profiad myfyrwyr. Mae tua 11,000 o fyfyrwyr yn astudio yn y Brifysgol, gyda 650 o staff dysgu wedi eu lleoli o fewn tri ar hugain o ysgolion academaidd.

Mae Prifysgol Bangor yn y 40 uchaf yn y Deyrnas Unedig am ymchwil,* yn ôl y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014. Cydnabu’r REF fod mwy na thri chwarter o ymchwil Bangor naill ai “gyda’r orau yn y byd” neu “yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol”, sydd yn uwch na’r cyfartaledd ymysg holl brifysgolion y Deyrnas Unedig.

Mae’r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr diweddaraf (2017) yn enwi Bangor ymysg y 10 prifysgol gorau ym Mhrydain am foddhad myfyrwyr (ac eithrio sefydliadau arbenigol).

Gwobr aur am ansawdd ein dysgu

Mae Prifysgol Bangor wedi ennill Gwobr Aur, y raddfa uchaf posibl, yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu cenedlaethol (FfRhA).

Cynhaliwyd yr asesiad FfRhA i ystyriaeth Ansawdd Addysgu, Amgylchedd Dysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr a Budd Addysgol. Barnodd y Panel TEF bod Prifysgol Bangor yn darparu addysgu, dysgu a chanlyniadau rhagorol yn gyson i’w myfyrwyr. Maent o’r ansawdd orau a geir yn y DU.

Ystod eang o arbenigedd

O fewn y Brifysgol mae pum Coleg sy’n cynnwys 22 o ysgolion academaidd, ynghyd a dros 50 o ganolfannau ymchwil arbenigol, sy’n galluogi darpariaeth o gyrsiau o fewn y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau.

Amrywiaeth o gyrsiau

Rydym yn cynnig cannoedd o gyrsiau ar draws y celfyddydau a’r gwyddorau. Rydym yn ymfalchïo yn safon ein haddysgu a chafodd ein cyrsiau a’n darlithwyr eu henwi’r ail orau ym Mhrydain yng ngwobrau myfyrwyr WhatUni 2018.

Arwain ar y Gymraeg

Prifysgol Bangor sy’n cynnig y nifer fwyaf o gyrsiau cyfrwng Cymraeg ac mae mwy o fyfyrwyr yn dewis astudio trwy’r Gymraeg yma nac yn unrhyw brifysgol arall.

Prifysgol wedi ymrwymo i gynaliadwyedd

Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i ddod yn adnabyddus yn fyd-eang fel Y Brifysgol Gynaliadwy. Yn wir, mae llawer o’r hyn yr ydym yn ei wneud yn deillio o’n dymuniad i ddod â chynaliadwyedd yn fyw, boed drwy ein haddysgu, ymchwil neu ymgysylltu cyhoeddus. Rydym wedi sefydlu’r Labordy Cynaliadwyedd i arwain ar bob agwedd o gynaliadwyedd ar draws y Brifysgol. Mae gennym achrediadau ISO14001 a’r Ddraig Werdd (lefel 5) am reolaeth amgylcheddol ac rydym yn ymysg y 5% uchaf cynghrair o brifysgolion gwyrdd y byd

Lleoliad heb ei ail

Mae lleoliad Bangor – rhwng y mynyddoedd a’r môr – wedi cael ei ddisgrifio fel y lleoliad prifysgol orau ym Mhrydain. Yn 2016 cafodd Gogledd Cymru ei henwi’r 4ydd lle gorau i ymweld ar draws y byd yn ôl y Lonely Planet, yn sgil ei harddwch naturiol a’r cyfleoedd antur newydd sbon sydd ar gael yn yr ardal.

Buddsoddiad mewn adnoddau

Mae datblygiadau newydd y Brifysgol yn cynnwys Pontio, sef canolfan y celfyddydau ac arloesi sy’n gytref i Undeb y Myfyrwyr, adnoddau dysgu, theatr, sinema, bar, caffis a gofod arloesi. Mae datblygiadau eraill diweddar yn cynnwys 600 o ystafelloedd newydd mewn neuaddau preswyl ym Mhentref Santes Fair ac ailddatblygiad cyfleusterau chwaraeon y Brifysgol yng Nghanolfan Brailsford.

Profiad myfyrwyr Bangor

Mae bywyd ym Mhrifysgol Bangor yn fywiog ac yn amrywiol. Mae gennym dros 150 o glybiau a chymdeithasau’n perthyn i Undeb y Myfyrwyr, sy’n cwmpasu ystod eang o ddiddordebau, gweithgareddau a chwaraeon – sy’n golygu fod yna rhywbeth i bawb. Mae aelodaeth am ddim felly mae cyfle i’n holl fyfyrwyr fanteisio ar y cyfleoedd allgyrsiol sydd ar gael. Enillodd Prifysgol Bangor y wobr am y clybiau a chymdeithasau gorau ym Mhrydain yng ngwobrau WhatUni 2018.

Caiff myfyrwyr ym Mangor gymorth a chefnogaeth o’r eiliad maent yn cyrraedd. Mae ein canolfan Gwasanaethau Myfyrwyr yn cynnig cyngor ac arweiniad ar faterion fel arian a chyllid, anabledd, cwnsela, dyslecsia a chyngor ar rentu tai preifat. Pob blwyddyn mae cannoedd o fyfyrwyr yr ail a’r drydedd flwyddyn yn cael eu hyfforddi i weithio fel Arweinwyr Cyfoed sy’n croesawu myfyrwyr newydd i Fangor ac yn cynnig cymorth ymarferol er mwyn helpu iddynt ymgartrefu.

Llety o safon

Mae gennym gysylltiadau agos gyda busnes a’r GIG yng Nghymru drwy Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae’r Brifysgol yn un o’r prif ddarparwyr hyfforddiant ac addysg ar gyfer y GIG ac mae hefyd yn un o’r prif bartneriaid yn Ysgol Glinigol Gogledd Cymru.

*heb gyfrif sefydliadau arbenigol a phrifysgolion oedd yn cyflwyno mewn un Uned Asesu yn unig