Cwrdd â’r Tîm

This post is also available in: enEnglish

Lansio Cynllun Peilot Porth Môr Iwerddon: Rhes gefn (o’r chwith i’r dde) Dr Terence O’Carroll, Dr Shelagh Malham, Dr Peter Robins, Nicholas Chopin, Brian O’Loan, yr Athro Lewis LeVay, Trevor Jones

Rhes flaen (o’r chwith i’r dde) Breda Curran, Esther Howie, Dr Julie Webb, Joanne Gaffney, Benen Dallaghan

Tîm Bord Iascaigh Mhara

Dr. Terence O’Carroll yw’r Rheolwr Technegol Dyframaethu sy’n gweithio yn swyddfeydd BIM yn Dun Laoghaire.

Benen Dallaghan yw’r swyddog GIS sy’n gweithio yn swyddfeydd BIM yn Dun Laoghaire.

Mae Nicholas Chopin yn Swyddog Arolygu’r Glannau yn swyddfeydd BIM yn Galway. Mae’n gyfrifol am y gwaith monitro larfâu grawn cregyn gleision gan gynnwys monitro hwsmonaeth a threfnu’r gwaith o samplu a dadansoddi larfâu. Gan ddefnyddio bwiau drifftio, crafangau, tynrwydi, data acwstig a dulliau fideo tanddwr, mae Nick yn casglu ac yn prosesu llawer iawn o ddata yn y fan a’r lle.

Mae Paul Byrne yn ddatblygwr sydd â mwy nag ugain mlynedd o brofiad ym maes peirianneg cyfrifiadur, TG a’r we. Mae’n gweithio yn swyddfeydd BIM yn Dun Laoghaire.

Niamh Mcgowan-Weafer yw’r Cydgysylltydd Technegol, Ariannol a Gweinyddol Dyframaethu.

Tîm Bangor

Mae Dr Shelagh Malham yn Ddarllenydd yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion ac mae’n gweithio i’r Ganolfan Gwyddorau Môr Cymhwysol ym Mhrifysgol Bangor. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar ryngweithio amgylcheddol mewn perthynas â physgod cregyn. Mae’r dull gweithredu cyfannol yn cwmpasu themâu pellgyrhaeddol fel prosesau o’r dalgylch i’r arfordir, iechyd ecosystemau, gweithrediad morydol, pathogenau ac iechyd dynol, prosesu macrofaetholion, llygredd, newid yn yr hinsawdd (tymheredd, asideiddio, cynnydd yn lefel y môr), marwoldeb/clefydau ymhlith pysgod cregyn, cysylltedd larfâu a chynaliadwyedd pysgod cregyn. Mae ei gwaith yn arwain at yr effaith uniongyrchol sydd ei hangen ar gyfer busnesau masnachol mewn ardaloedd dalgylch, arfordirol ac eigionegol. Shelagh yw Cyfarwyddwr Gweithrediadau Cynllun Peilot Porth Môr Iwerddon.

Dr Julie Webb yw’r Swyddog Ymchwil Ôl-Ddoethurol ar y prosiect. Mae’n gyfrifol am y gwaith gwyddonol o fewn Gweithrediad Cynllun Peilot Porth Môr Iwerddon a datblygu’r trefniadau monitro larfâu.

Mae Dr Nicholas Jones yn Swyddog Ymchwil ar Gynllun Peilot Porth Môr Iwerddon ac mae’n gyfrifol am fonitro cyflwr atgenhedlol poblogaethau cregyn gleision lleol, gan gynnal arolygon o ddosbarthiad larfâu ac aneddiadau grawn, yn ogystal â chynllunio a monitro system amaethu cregyn dwygragennog ar y môr. Mae wedi gweithio yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus, gan gynnwys nifer o ddeorfeydd pysgod masnachol yn y DU a thramor. Mae hefyd wedi gweithio fel ymchwilydd mewn sglerogronoleg ar nifer o brosiectau cydweithredol gydag Arolwg Daearegol Prydain, lle y defnyddiwyd cofnodion twf ac arwyddiannau geocemegol cregyn molysgiaid dwygragennog i ddadansoddi amodau amgylcheddol yn y gorffennol ger safleoedd drilio ym Môr y Gogledd a Môr Iwerddon.

Mae Dr Thomas Galley yn Swyddog Ymchwil ar Gynllun Peilot Porth Môr Iwerddon ac mae’n gyfrifol am fonitro cyflwr atgenhedlol poblogaethau cregyn gleision lleol, gan gynnal arolygon o ddosbarthiad larfâu ac aneddiadau grawn, yn ogystal â chynllunio a monitro system amaethu cregyn dwygragennog ar y môr. Mae gan Tom fwy na 10 mlynedd o brofiad fel gwyddonydd ymchwil ym maes dyframaethu morol, gan weithio ar dechnegau meithrin, maetheg a ffisioleg larfâu a physgod cregyn ifanc mewn rhywogaethau tymherus a throfannol. Hefyd, mae wedi gweithio ar nifer o brosiectau ymchwil cregyn dwygragennog rhyngwladol a ariannwyd gan yr UE mewn gwahanol sefydliadau sy’n cydweithio; prif nodau prosiectau BLUESEED a REPROSEED oedd creu cregyn gleision triploid gan ddefnyddio sbardunau cemegol, ymchwilio i’r broses o ddatblygu cyflenwad cynaliadwy o rawn cregyn gleision o ansawdd da, a deall y ffactorau sy’n dylanwadu ar fetamorffosis a symudiad ar ôl anheddu ymhlith y cregyn dwygragennog Mytilus edulis a Pecten maximus.

Mae Dr Peter Robins yn Gymrawd Ymchwil a bydd yn adeiladu ar y modelau a grëwyd ganddo yn ystod SUSFISH. Mae ei waith ymchwil yn cynnwys astudiaethau modelu o amgylch moroedd ysgafellol Ewrop. Mae’r rhain yn cynnwys ynni adnewyddadwy morol, modelu cludo bioffisegol larfâu, prosesau arfordirol a morydol a morffodynameg.

Mae Jenna Alexander yn Swyddog Cymorth Ymchwil ar Gynllun Peilot Porth Môr Iwerddon ac mae’n gweithio ar geneteg cregyn dwygragennog.

Esther Howie yw’r Rheolwr Gweithrediad sy’n gyfrifol am sicrhau bod Cynllun Peilot Porth Môr Iwerddon yn gweithredu’n unol â’r Cynllun Busnes. Mae Esther yn gweithio yng Nghanolfan Môr Cymru a gellir dod o hyd i wybodaeth gyswllt yma

Karen Tuson yw’r Swyddog Gweinyddol Cymorth Prosiect Ymchwil ar gyfer Cynllun Peilot Porth Môr Iwerddon.